English
library.wales.org
library.wales.org

Mynegwch Eich Hun

Seremoni Wobrwyo yn dathlu Gallu Creadigol a Dychymyg


Gwyliwch uchafbwyntiau'r seremoni wobrwyo

Clipiau fideo o'r cyflwyniadau gwobrwyo, cyfweliadau a dathliadau'r diwrnod ynghyd ag amlinelliad o'r ymgyrch. Gallwch hefyd weld y gystadleuaeth ar Y Dydd, S4C.

Roedd enillwyr o Gymru benbaladr wrth eu bodd i dderbyn eu gwobrau mewn seremoni wobrwyo arbennig yn y Senedd, Caerdydd ar 25 Chwefror 2010. Cafodd y deunaw olaf eu dewis o blith dros 1600 o geisiadau yn y gystadleuaeth gelfyddydau genedlaethol gyntaf un i lyfrgelloedd – Mynegwch eich Hun! Darllenwch y rhestr o enwau enillwyr.

Ruth Jones gyda gwaith yr enillwyr

Roedd Hyrwyddwr Llyfrgelloedd Cymru, yr actor a’r awdur Ruth Jones yno i gyflwyno’r gwobrau a dywedodd: “Mae’r gallu creadigol a’r dychymyg ym mhob categori yn anhygoel; fe fydden nhw’n sicr yn fy ysbrydoli i alw mewn llyfrgell!  Bu’n bleser cwrdd â’r enillwyr heddiw a gweld y gwaith bendigedig y maen nhw wedi’i baratoi.”

Roedd Mynegwch Eich Hun yn annog pobl o bob oed i ddangos eu doniau creadigol dan thema gyffredinol ‘llyfrgelloedd’. Gallai ymgeiswyr ddewis unrhyw ffurf gan gynnwys ysgrifennu creadigol, dawns, drama, cerddoriaeth, animeiddio, paentio, ffotograffiaeth, darlunio neu gerflunio. Cafodd yr enillwyr eu dewis o blith nifer o gategorïau gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, sefydliadau academaidd, sefydliadau cymunedol ac unigolion.

Gwobrau Mynegwch Eich Hun

Cafodd y seremoni ei llywyddu gan y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones a ddywedodd: “Bu’r gystadleuaeth yn llwyddiant mawr – fe roddodd gyfle i bobl o bob oed ddangos eu doniau ac ar yr un pryd mae’n dangos sut gall llyfrgelloedd Cymru gael effaith ar fywydau pobl a’u hysbrydoli. Roeddwn yn edmygu ansawdd y ceisiadau. Mae’n amlwg bod yna gyfoeth o ddoniau creadigol – pwy a ŵyr, efallai y bydd rhai o’r bobl yma heddiw yn enwog yn y dyfodol! Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran, gan gynnwys staff y llyfrgelloedd a’r holl bobl a roddodd o’u hamser a’u hymdrech i anfon ceisiadau.”

>> Edrychwch drwy rai o ffotograffau'r digwyddiad a chael blas ar y dathliadau.


Mae arddangosfa genedlaethol o waith y buddugwyr ar daith yn awr i ganolfannau ledled Cymru. Mwy o fanylion

Eisiau gweld mwy o glipiau fideo o'r gystadleuaeth? Prif bwyntiau Lansiad y Gystadleuaeth gyda'r actores a'r awdur Ruth Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones a'r Cynghorydd Nigel Howells, Cyngor Caerdydd.