English
library.wales.org
library.wales.org

Mynegwch Eich Hun

Beth yw'r gwobrau?


Enillwyr Cenedlaethol

• Bydd pob enillydd lleol yn ymddangos yn awtomatig ar restr hir ble bydd panel o feirniaid yn dewis 18 i fynd ymlaen yn genedlaethol
• Fe fydd gwobr gyntaf, ail a thrydedd wobr ar gyfer pob categori fel a ganlyn:

  • Gwobr 1af - £500 o dalebau'r Stryd Fawr
  • 2ail wobr - £250 o dalebau'r Stryd Fawr
  • 3ydd wobr - £100 o dalebau'r Stryd Fawr

• Bydd pawb sy’n mynd ymlaen yn genedlaethol yn derbyn plac / tlws i gofio

 

Enillwyr Lleol

• Bydd un ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd yn cael ei dewis o bob sir i ennill gwerth £50 o dalebau’r stryd fawr
• Bydd un unigolyn (unrhyw oedran) yn cael ei ddewis o bob sir i ennill gwerth £50 o dalebau’r stryd fawr
• Bydd un sefydliad gwirfoddol neu gymunedol yn cael ei ddewis o bob sir i
ennill gwerth £50 o dalebau’r stryd fawr
• Bydd pob Sefydliad Addysg Bellach yng Nghymru yn dewis enillydd i ennill gwerth £50 o dalebau’r stryd fawr
• Bydd pob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yn dewis enillydd i ennill gwerth £50 o dalebau’r stryd fawr

 

Gwobrau Eraill

•Bydd yr 18 ymgeisydd terfynol yn cael eu gwahodd i Ddigwyddiad Gwobrwyo yn y Senedd, Caerdydd ar ddydd Llun, 22ain Chwefror 2010 a chael cyfle i gwrdd â’r seren sydd newydd ddechrau hyrwyddo Llyfrgelloedd Cymru -
Ruth Jones
•Mae’n bosib y bydd cyfle i’r ymgeiswyr terfynol berfformio eu gwaith yn y Digwyddiad Gwobrwyo
•Bydd gwaith yr 18 ymgeisydd terfynol yn cael ei arddangos yn genedlaethol ac mae’n bosib y bydd llyfrgelloedd lleol yn arddangos ceisiadau lleol hefyd
•Bydd ceisiadau’r holl enillwyr lleol a chenedlaethol yn cael eu dangos ar llyfrgell.cymru.org ac ar wefannau awdurdodau/sefydliadau lleol ble bynnag y
bydd modd
•Bydd enillwyr lleol a chenedlaethol yn cael eu cyhoeddi i’r cyfryngau

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni ar cystadleuaeth@llgc.org.uk neu ffoniwch 01978 297 437. Fel arall, mae manylion llawn y gystadleuaeth ar gael yn y Pecyn Gwneud Cais.