English
library.wales.org
library.wales.org

Mynegwch Eich Hun

Allech chi ysgrifennu cerdd, creu gwaith celf neu berfformio drama a fyddai’n ysbrydoli pobl i ymweld â’u llyfrgell?

Derbyniodd dros 1600 o bobl o bob oed yr her ‘Mynegwch eich Hun!’ a chyflwyno ceisiadau ymhob fformat – ysgrifennu creadigol, dawns, drama, cerddoriaeth, ffotograffiaeth, cerfluniau a mwy.

Cafodd 18 o enillwyr eu dewis ac roedd " y gallu creadigol a'r dychymyg ym mhob categori yn anhygoel" dywedodd yr actores a'r awdur Ruth Jones. Rhestr o enwau'r enillwyr.


Thema’r gystadleuaeth oedd ‘Llyfrgelloedd’.

Mae arddangosfa genedlaethol o waith y buddugwyr ar daith i ganolfannau ledled Cymru ar hyn o bryd fel y gallwch chithau weld y ceisiadau llwyddiannus. Ble a phryd gallaf weld gwaith yr enillwyr?
Bydd y gwaith i'w gweld arlein hefyd yn fuan.


Roedd enillwyr wrth eu boddau i dderbyn eu gwobrau mewn seremoni wobrwyo arbennig yn y Senedd, Caerdydd ar 25 Chwefror 2010.

Gweld uchafbwyntiau'r seremoni wobrwyo


A ydych chi'n aelod o'ch llyfrgell leol?
Os nad ydych, pam na wnewch chi ymuno heddiw a darganfod sut all y llyfrgell eich helpu i fynegi eich hun!


Un rhan o ymgyrch farchnata Llyfrgelloedd am Oes, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yw Mynegwch eich hun. Mae’r ymgyrch yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddarparu rhwydwaith llwyddiannus ar gyfer yr 21ain ganrif.