English
library.wales.org
library.wales.org

Laptop

    Rydych chi yma: Adref
    Happy Days...
    Win a MacBook Air!

    Dyddiad cau y gystadleuaeth i ennill laptop oedd 12 Rhagfyr 2008.

    Darllenwch yr Amodau a Thelerau yma.

    10 rheswm da i ymuno â dy lyfrgell leol...

    1.     Llyfrau am ddim
    2.     Rhyngrwyd am ddim
    3.     CDs a DVDs am bris isel
    4.     Help gyda dy waith
    5.     Rhywle i gwrdd â dy ffrindiau
    6.     Mynediad 24/7 drwy'r wefan hon
    7.     Dal lan â chwaraeon a'r diweddaraf am bobl enwog
    8.     Rhywle i astudio mewn tawelwch
    9.     Darllen am dy hoff ddiddordebau
    10.   Help gyda dy arholiadau a chyfle i edrych at ddyfodol hapus! 

    I ddarganfod mwy am dy lyfrgell leol, clicia yma.


    Genevieve Fletcher a Chuyan Yu o Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn yn cael eu cardiau yng nghwmni'r Cyflwynydd Teledu Gethin Jones.

    Eich cyfle i ennill laptop
    Mae'r gystadleuaeth i ennill laptop MacBook Air wedi cau. Cafodd pob cais ei roi mewn loteri ac enw 2 enillydd lwcus eu dethol ar hap. Daniel Palmer o Dregwyr, Abertawe a Robert Taggart o Brestatyn yn Sir Ddinbych enillodd y cyfrifiaduron.

    Pam Dyddiau Da?
    Dosbarthwyd y cardiau i ennill laptop fel rhan o ymgyrch Dyddiau Da, sy’n annog pawb i edrych o’r newydd ar eu llyfrgell yr hydref hwn! I ddarganfod mwy am yr ymgyrch, y digwyddiadau a gynhaliwyd ar draws y wlad a pha enwogion a ymwelodd â'ch ardal chi, cliciwch yma.


    Un rhan o ymgyrch farchnata Llyfrgelloedd am Oes, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yw Dyddiau Da. Mae’r ymgyrch yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddarparu rhwydwaith llwyddiannus ar gyfer yr 21ain ganrif.