Ffeindio'ch Llyfrgell
- Blaenau gwent
- Pen-y-Bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell Nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam
- Llyfrgelloedd Addysg Bellach
- Llyfrgelloedd Addysg Uwch
- Llyfrgelloedd Iechyd
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Llyfrgelloedd Eraill
- Cynlluniau Rhwng Benthyca Lleol
Dod o hyd i lyfr
Oes gennych chi gwestiwn anodd?
Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi.
Chwilio am erthygl papur newydd?
Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.
Llyfrgell y Barri
Llyfrgell y Sir, Y Barri
Sgwâr y Brenin
Y Barri
CF64 4RW
Rhif Ffôn: 01446 709737 (Ymholiadau Cyffredinol)
01446 422423 (Ymholiadau Cyfeirio)
Ffacs: 01446 709377
E-bost: barrylibrary@valeofglamorgan.gov.uk
Mae?r rhan fwyaf o?r bysus sy?n teithio o amgylch y Barri?n stopio tu allan i?r brif fynedfa ar Heol Tŷ Newydd.

- Prif Fynedfa Llyfrgell Y Bari
Agorodd y llyfrgell sirol newydd gyntaf yng Nghymru ers 10 mlynedd yn y Barri ar y 4ydd o Ionawr 2007. Yn fodern, lliwgar a chroesawgar mae?r llyfrgell hon sydd ar ddau lawr yn cynnig y cyfleusterau diweddaraf un.
Mae?r llyfrgell yn cynnwys ystafell gymunedol a enwyd ar ôl Phillip John. Cysegrodd Mr John ei fywyd gwaith i?r gwasanaeth llyfrgell lleol ac ef oedd llyfrgellydd y fwrdeistref rhwng 1965 a 1976. Bydd Ystafell Phillip John ac Ystafell Gymunedol arall yn cael eu defnyddio ar gyfer cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer y gymuned.
Oriau Agor

- Cwrt Allanol y Llyfrgell
Dydd Llun | 8.30 | 8.00 |
Dydd Mawrth | 8.30 | 6.00 |
Dydd Mercher | 8.30 | 6.00 |
Dydd Iau | 8.30 | 8.00 |
Dydd Gwener | 8.30 | 6.00 |
Dydd Gwener | 9.00 | 5.30 |
Gwasanaethau ac Adnoddau

Mae?r llyfrgell yn cynnwys y casgliad mwyaf o lyfrau yn y Fro ynghyd â chasgliad helaeth o gerddoriaeth a chryno ddisgiau. Mae?n bosib i gwsmeriaid ddychwelyd a benthyca llyfrau eu hunain drwy ddefnyddio?r ddesg hunanwasanaeth. Mae prif lyfrgell gyfeirio?r Fro ar y llawr cyntaf.
Mae gan y llyfrgell adrannau arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae adran y plant yn cynnwys llyfrau, cyfrifiaduron a chonsolau gemau. Mae?n bosib addasu?r rhan yma o?r llyfrgell i gynnal nifer o weithgareddau gan gynnwys gweithdai celf a chrefft a sesiynau stori. Dyluniwyd yr adran ieuenctid gan bobl ifanc yr ardal a ddewisodd gynnwys set deledu, llecyn i wrando ar gerddoriaeth, cyfrifiaduron, soffas a darn o waith celf a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yno.
Ar lawr cyntaf y llyfrgell mae Swît Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Gosodwyd ciosg talu cyfrifiadurol yno fel y gall defnyddwyr dalu heb orfod ciwio wrth y ddesg. Mae?r llyfrgell yn llecyn chwilboeth sy?n golygu y gall defnyddwyr cofrestredig, ar eu gliniaduron eu hunain, ddefnyddio?r Rhyngrwyd drwy weinyddwr y Cyngor.
Digwyddiadau

- Ardal Pobl Ifainc y Llyfrgell
Cynhelir sesiwn amser stori i blant oed cyn ysgol bob Dydd Mercher rhwng 2.15 a 3.15pm, Sesiynau Curo, taro a rhigymau (gyda chaneuon a hwiangerddi) ar Ddydd Mawrth rhwng 11.15am 1 12pm. Cyn bo hir rydym yn bwriadu cynnal sesiwn Rhigymau ac Arwyddion. Amser stori ag arwyddion i fabanod sy?n clywed.
Yn ystod yr haf bydd storïwyr yn cynnal sesiynau stori yng nghwrt y llyfrgell.
*Nodwch mai gweithgareddau drwy gyfrwng y Saesneg yw?r rhain.

English
| Cysylltwch â ni |
Mewngofnodi Staff