- Colin Jackson yn Llyfrgell Y Drenewydd
Ymwelodd y Cyflwynydd a Sylwebydd Colin Jackson â Llyfrgell y Drenewydd ar ddydd Iau 6 Tachwedd am 3yh. Cymerodd Colin ran mewn sesiwn cwestiwn ac ateb a bu'n sgwrsio â defnyddwyr y llyfrgell. I ddarllen mwy am y digwyddiad a pham mae llyfrgelloedd yn gwneud Colin yn hapus, cliciwch yma.
- Gethin Jones yn Llyfrgell Bae Colwyn
Bu'r Cyflwynydd Teledu a Seren Strictly Come Dancing Gethin Jones yn Llyfrgell Bae Colwyn yn ystod yr hanner tymor. Yn ystod y digwyddiad bu'n cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb ac yn cwrdd â defnyddwyr y llyfrgell. I ddarllen mwy am y digwyddiad a darganfod pam mae llyfrgelloedd wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd Gethin, cliciwch yma.
- Cerys Matthews a Stuart Cable yn Abertawe
Cliciwch yma i ddarllen am y sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Cerys Matthews a Stuart Cable yn Llyfrgell Ganolog Abertawe ar 15 Hydref. Mae nifer o ffotograffau o'r digwyddiad ar gael a chyfle i ddarganfod pam mae llyfrgelloedd yn gwneud Cerys a Stuart yn hapus!
- Lansiad yr ymgyrch - Ruth Jones o'r gyfres Gavin & Stacey yn Llyfrgell Y Barri
Cliciwch yma i ddarllen am lansiad yr ymgyrch neu edrychwch ar y ffotograffau yn ein Galeri Delweddau.
- Tarodd Sian Lloyd, y darllenwraig newyddion BBC, draw yn stondin Dyddiau Da y gynhadledd CLlLC diweddar yn Llandudno. Dywedodd Sian wrth y Swyddog Marchnata, Nicola Williams, iddi fod yn ddefnyddiwr brwd o Lyfrgell Wrecsam pan yn blentyn a'i bod hi'n edrych mlaen yn arw at agor Llyfrgell Ganolog newydd Caerdydd er mwyn mynd a'i phlentyn tair oed i rai o'r gweithgareddau lu sy'n cymryd rhan mewn llyfrgelloedd ar draws Cymru".
Mae rhestr llawn o ddigwyddiadau i ddod ar gael yma.
Galeri o Ddelweddau.