

Y cyflwynydd a seren Strictly Come Dancing, Gethin Jones, yw’r diweddaraf i ddangos ei gefnogaeth i ymgyrch ‘Dyddiau Da’, sy’n dangos sut gall llyfrgelloedd eich gwneud chi’n hapus!
Treuliodd Gethin y bore (30ain Hydref) yn llyfrgell Bae Colwyn yng Ngogledd Cymru, yn darllen straeon doniol i blant ac yn ateb cwestiynau diddorol gan gynulleidfa fywiog!
Dywedodd Gethin: “Rwy’n falch iawn cael bod yn rhan o’r ymgyrch gyffrous hon. Mae llyfrgelloedd wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd erioed, o ddewis fy hoff lyfrau pan oeddwn i’n blentyn hyd at astudio ar gyfer fy ngradd yn y Brifysgol. Mae’r holl bethau sy’n cael eu cynnig gan lyfrgelloedd nawr yn wych – nid dim ond y llyfrau, ond y DVDs, y llyfrau sain a’r mynediad am ddim at y rhyngrwyd, ac mae’n wych bod cymaint ar gael am ddim! Roeddwn i’n meddwl bod yr adran i blant yn wych ac rwy’n edrych ymlaen at fynd â fy nai yno cyn gynted a’i fod yn ddigon hen!”
Lansiwyd yr ymgyrch yn ddiweddar gan Weinidog Dros Dreftadaeth Llywodraeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones, a Ruth Jones, yn Llyfrgell y Barri. Ymunodd Gethin Jones â sêr eraill wrth ymweld â llyfrgelloedd ar draws y wlad er mwyn cefnogi’r ymgyrch, gan gynnwys Cerys Matthews, Stuart Cable a Colin Jackson.
Ymwelwch â’ch llyfrgell leol er mwyn cael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, neu ewch at library.wales.org/cy/dyddiau-da/
Un rhan o ymgyrch farchnata Llyfrgelloedd am Oes, a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yw Dyddiau Da. Mae’r ymgyrch yn rhan o ymroddiad Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu rhwydwaith o lyfrgelloedd byw ar gyfer yr 21ain ganrif.