

Cerys Matthews a Stuart Cable yw’r enwogion diweddaraf i ddagnos eu cefnogaeth i ymgyrch ‘Dyddiau Da’, sy’n dangos sut gall llyfrgelloedd eich gwneud chi’n hapus!
Lansiwyd yr ymgyrch, sy’n gweithio i annog pawb i ‘edrych o’r newydd ar eu llyfrgell’, gan Weinidog Dros Dreftadaeth Llywodraeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones, a Ruth Jones, yn Llyfrgell y Barri yn ddiweddar.
Bydd Cerys Matthews yn picio i mewn i Brifysgol Fetropolitan Abertawe ddydd Mercher nesaf (y 15fed o Orffennaf) i gymryd cip o amgylch y llyfrgell a chwrdd â rhai o’r myfyrwyr.
Bydd yna sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Cerys a Stuart yn Llyfrgell Ganolog Abertawe yn hwyrach yn y dydd hefyd, o 6yh. Mae’r digwyddiad hwn ar agor i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim – gellir cael tocynnau o’r llyfrgell, ond y cyntaf i’r felin gaiff falu – ffoniwch 01792 636464.
Cyn y noson, dywedodd Cerys:
“Dwi’n falch iawn cael bod yn rhan o’r ymgyrch gyffrous hon. Mae llyfrgelloedd yn lefydd gwych, mae fy mhlant wrth eu bodd yn ymweld â’n llyfrgell leol ac mae gen i atgofion gwych o brynhawniau gwlyb mewn llyfrgelloedd ar draws y wlad. Ac ry’ch chi’n cael cymaint am ddim – Dyddiau Da amdani!”

Ymwelwch â’ch llyfrgell leol er mwyn cael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, neu ewch at: http://llyfrgell.cymru.org/dyddiau-da/
Un rhan o ymgyrch farchnata Llyfrgelloedd am Oes, a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yw Dyddiau Da. Mae’r ymgyrch yn rhan o ymroddiad Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu rhwydwaith o lyfrgelloedd byw ar gyfer yr 21ain ganrif.
Cliciwch yma i weld galeri o luniau o'r sêr fu'n cefnogi digwyddiadau Dyddiau Da.