Byddwn yn diweddaru’r rhestr hwn o Gwestiynau Cyffredin yn aml wrth i ni barhau i ddatblygu gwasanaeth Cat Cymru. Tarwch olwg ar y rhestr isod cyn cysylltu â ni.
- Mae gan rai catalogau gyfyngiadau ar y nifer o ganlyniadau a ddychwelir (500 neu 1000 yn aml). Ceisiwch chwilio am dermau mwy penodol os ydych yn gweld eich bod yn cyrraedd y terfynau hyn.
- Mae’n debyg y byddwch chi’n blino hefyd petaech chi’n gorfod ymweld â phob llyfrgell yng Nghymru! Ond, o ddifri’, bydd y system yn cymryd tipyn o amser i gasglu a phrosesu’r holl wybodaeth os ydych yn dewis chwilio pob catalog. Rydym yn gweithio’n galed i gwtogi’r amser ymateb ond does dim llawer y medrwn ni ei wneud os yw’r catalog lleol yn araf. Beth am geisio chwilio ychydig o gatalogau yn unig, neu’r catalogau sydd fwyaf lleol i chi?
- Peidiwch â phoeni - cofiwch mai gwasanaeth beta yw hon. Gadewch i ni wybod beth ddigwyddodd trwy’r dudalen gyswllt.
- WebFeat® sy’n rhedeg Cat Cymru ac mae’n gweithio trwy chwilio am eich term ym mhob un o’r catalogau rydych chi’n eu dewis. Unwaith iddo ddod o hyd i’r canlyniadau, mae’n eu trefnu yn y rhestr y gwelwch ar ryngwyneb Cat Cymru. Ewch at www.webfeat.org er mwyn cael mwy o wybodaeth am WebFeat® a’r dechnoleg y tu ôl i’r gwasanaeth.
- Oes. Bydd angen i chi ddarparu manylion eich aelodaeth llyfrgell er mwyn benthyg eitem. Gallwch gofrestru yma os nad ydych yn aelod o lyfrgell yng Nghymru eisoes. Os ydych chi'n iau nag 16 mlwydd oed, yna gofynnwch i riant neu warcheidwad osod y cais am yr eitem yr hoffech ei fenthyg ar eich rhan.
- Bydd eich llyfrgell gwneud pob ymdrech i ddarparu'r eitemau rydych yn gwneud cais amdanynt, ond mae’n bosibl na fydd rhai eitemau ar gael i’w benthyg adref. Cewch wybod beth yw’r ffordd orau o gael mynediad at eitemau felly yn yr achosion hyn.
- Mae gwneud cais am eitem trwy Cat Cymru yn union yr un peth â gwneud cais eich hun yn eich llyfrgell gyhoeddus. Ar ôl i chi osod cais, bydd eich llyfrgell yn cysylltu â chi o fewn un wythnos waith gyda mwy o wybodaeth. Bydd yr eitem ar gael i chi ei gasglu o’ch llyfrgell cyn gynted â phosibl, ond dylech nodi y gall fod yn amhosibl dod o hyd i rai eitemau. Cewch wybod beth yw’r ffordd orau o gael mynediad at yr eitemau hynny yn yr achosion hyn.