Mae Cat Cymru beta yn casglu'r holl gatalogau sydd ar gael yn gyhoeddus gan lyfrgelloedd Cymru at ei gilydd i'w chwilio o un lle. Gallwch ddewis chwilio am bob math o ddeunyddiau mewn unrhyw lyfrgell Cyhoeddus, llyfrgell Addysg Uwch neu lyfrgell Addysg Bellach mewn rhanbarth arbennig trwy deipio term yn y bocs chwilio isod.
Defnyddiwch ein Chwiliad Manwl i chwilio trwy lyfrgelloedd penodol.
Chwiliwch Gatalog eich Awdurdod Lleol drwy glicio ar un o'r adnoddau ar y rhestr.
Gall aelodau llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru osod cais am eitem trwy Cat Cymru yn yr un ffordd â gosod cais wyneb-yn-wyneb mewn llyfrgell cyhoeddus. Chwiliwch trwy Cat Cymru am yr eitem yr hoffech fenthyg, yna cliciwch ar y botwm ‘Benthyca Eitem.’ Darllenwch mwy am delerau ac amodau y gwasanaeth.
Mae Cat Cymru yn wasanaeth 'beta' ar hyn o bryd. Er ein bod am i chi ddefnyddio'r gwasanaeth a gosod ceisiadau am eitemau, mae hyn yn golygu ei fod yn bosibl nad oes rhai rhannau ohonno wedi eu gorffen yn llawn eto, ac yr ychwanegir darnau newydd ato gydag amser.
Rydym wedi creu tudalen o Gwestiynau Cyffredin er mwyn eich cynorthwyo wrth ddefnyddio Cat Cymru. Byddwn hefyd yn hoffi petaech yn rhoi'ch barn ar y gwasanaeth a rhoi gwybod i ni am unrhyw broblemau gan ddefnyddio'n Ffurflen Gyswllt.
Methu dod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio? Beth am ofyn eich cwestiwn i lyfrgellydd! Efallai gallwn ni ateb eich cwestiwn chi neu eich cyfeirio at ffynonellau a fydd yn eich helpu.