
Cronfa ddata ar-lein sy’n darparu gwybodaeth am y canlynol yw (ESO):
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, o seiadau doethion a sefydliadau ymchwil, o lyfrau ac erthyglau mewn cylchgronnau a phapurau newydd, o lywodraethau cenedlaethol a sefydliadau rhyngwladol eraill, a llawer mwy mewn un chwiliad trwy ESO. Mae yna gyfres o Ganllawiau Gwybodaeth unigryw ar Sefydliadau a Pholisïau’r Undeb Ewropeaidd ac ar wledydd Ewrop yno hefyd, wedi eu hysgrifennu gan Dîm Golygyddol ESO. Gall ESO fod o gymorth i chi os oes gofyn mawr gennych am wybodaeth ynglŷn ag Ewrop neu os mai ymholiadau achlysurol yn unig sydd gennych: gellir ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i wybodaeth i’r aelodau o’r cyhoedd neu i bobl broffesiynol.
Gallwch gael mynediad at ESO os ydych wedi cofrestru gyda llyfrgell.cymru.org, hefyd – piciwch draw at y dudalen fewngofnodi. Neu, cofrestrwch ar y dudalen Cofrestru os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.