English
library.wales.org
library.wales.org

Adnoddau Cyfeiriol

Adnoddau Cyfeiriol

Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn aelod o lyfrgell cyhoeddus yng Nghymru, gallwch gael mynediad am ddim at ystod eang o ddeunyddiau cyfeiriol ar-lein yma ar llyfrell.cymru.org.

Sut?

Mae'n syml: cofrestrwch gan ddefnyddio manylion eich aelodaeth llyfrgell ac fe wnawn ni'r gweddill! Bydd gennych fynediad at bob math o adnoddau cyfeiriol o gysur eich cartref mewn dim o dro.

Newsbank Logo
Land Life and Leisure
Land Life and Leisure
Darperir yr adnoddau hyn trwy nawdd gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru (CyMAL)

Oes yna adnoddau eraill y gallaf eu defnyddio?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Adnoddau Arlein

Cofrestrwch arlein i gael Tocyn Darllenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chael mynediad at e-adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol, ar yr amod eich bod yn byw yng Nghymru ac â chôd post yng Nghymru. Gallwch chwilio ar draws nifer fawr o’r adnoddau electronig y mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio iddynt, yn amrywio o gyfnodolion ysgolheigaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd, yn ogystal ag Ancestry. Gallwch hefyd ddefnyddio'r Chwiliad Manwl i chwilio ystod eang o adnoddau ar yr un pryd.

Tocyn Darllen LLGC
Gwybodaeth am sut i gael neu adnewyddu tocyn darllen.

LLGC: Cofrestru Arlein
Ffurflen Cofrestru Arlein am Docyn Darllen i gael mynediad at adnoddau arlein y Llyfrgell.


Mwy...

Mae yna gannoedd o wefannau sy'n cynnig adnoddau cyfeiriol arlein am ddim, yn cynnwys bywgraffiadau, geiriaduron, gwyddoniaduron, mapiau a llawer mwy. Gallwch chwilio trwy'r adnoddau yma am ddim yn eich llyfrgell neu gartref.